(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2012. Mae'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at y gost o brynu neu gyflenwi dyfeisiau olrhain drwy loeren a meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu data gweithgareddau pysgota yn electronig, yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.
Mae'r Cynllun hwn yn darparu bod rhaid dehongli cyfeiriadau at Offerynnau UE, neu rannau penodedig ohonynt, fel cyfeiriadau at yr Offerynnau neu'r rhannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Rhan 2 o'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â dyfeisiau olrhain drwy loeren. Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 7 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â meddalwedd gymeradwy. Mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer cyhoeddi rhestrau o'r meddalwedd a'r cyflenwyr cymeradwy. Mae paragraff 12 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 15 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 16 a 17 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.
Yn Rhan 4, mae paragraff 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu dyfarniad sy'n gwrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth gais, yn achos cais a wnaed o dan Ran 2 neu Ran 3. Mae paragraff 19 yn darparu ar gyfer dirymu, cadw'n ôl ac adennill grant a gymeradwywyd o dan naill ai Rhan 2 neu Ran 3 mewn rhai amgylchiadau, ac y mae paragraff 20 yn galluogi gwneud llog yn daladwy ar symiau a adenillir.
Yn Rhan 5, mae paragraff 21 yn darparu ar gyfer dirymu Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 a Chynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Cynllun hwn, ac y mae'r asesiad ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.