Cynllun a wnaed gan Weinidogion Cymru ac a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn cyfnod o ddeugain diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwnaed y Cynllun, yn ddarostyngedig i'w estyn ar gyfer cyfnodau o ddiddymiad neu doriad o fwy na phedwar diwrnod.
2012 Rhif 3172 (Cy.318)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd 19811, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, fel y'i darllenir ar y cyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 yn gwneud y Cynllun a ganlyn gyda chymeradwyaeth y Trysorlys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin ac at Reoliad Gweithredu y Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 gael eu dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2012.

(2)

Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2.

(1)

Yn y Cynllun hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 4; a

(b)

sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad y gwneir y cais am grant;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20065;

ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;

ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;

ystyr “meistr (“master”) yw'r person sydd, ar y pryd, yn gyfrifol am y cwch pysgota Cymreig cymwys;

ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) mewn perthynas â chwch pysgota yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â'r cwch hwnnw o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19676;
ystyr “y Rheoliad Gweithredu” (“the Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu y Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 ar 8 Ebrill 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin7,fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; ac
ystyr “y Rheoliad Rheoli” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/20068, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(2)

Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.

RHAN 2Grant ar gyfer dyfeisiau olrhain drwy loeren

Dehongli Rhan 23.

Yn y Rhan hon—

ystyr “cyflenwr cymeradwy” (“approved supplier”) yw'r darparwr a gosodwr dyfeisiadau olrhain drwy loeren a ddetholwyd gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddwyd yn y gwahoddiad am geisiadau am grant yn unol â pharagraff 4(1) o'r Cynllun hwn; ac

y mae i “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yr ystyr a roddir i “satellite-tracking device” yn Erthygl 2(9) o'r Rheoliad Gweithredu.

Gwahoddiad i geisio am grant4.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren.

(2)

Rhaid i wahoddiad gynnwys —

(a)

manylion o'r ddyfais olrhain drwy loeren a chyflenwyr cymeradwy;

(b)

manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

(c)

gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(d)

unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

(e)

y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais; ac

(f)

unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais5.

(1)

Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren, os yw'r person hwnnw —

(a)

yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)

wedi prynu dyfais olrhain drwy loeren gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr gymeradwy i gyflenwi dyfais olrhain drwy loeren, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau6.

(1)

Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1).

(2)

Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

(a)

bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)

bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau7.

(1)

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 6(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)

gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

(a)

o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amod(au); a

(b)

o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant8.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 7(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni —

(a)

bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi dyfais olrhain drwy loeren i'r ceisydd a'r ddyfais wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)

bod y ceisydd wedi defnyddio'r ddyfais olrhain drwy loeren yn llwyddiannus i ddarlledu data lleoliad ar ysbeidiau rheolaidd yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

(c)

y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru —

(a)

talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

(b)

talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant9.

O ran swm y grant—

(a)

ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r ddyfais olrhain drwy loeren; a

(b)

caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 3Grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy

Dehongli Rhan 310.

Yn y Rhan hon—

ystyr “cyflenwr cymeradwy”(“approved supplier”) yw cyflenwr a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1) mewn perthynas â'r feddalwedd gymeradwy;

ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw'r data llyfr log, data datganiad trawslwytho a'r data datganiad glanio y mae'n ofynnol, o dan y Rheoliad Rheoli, eu cofnodi a'u darlledu drwy ddull electronig; ac

ystyr “meddalwedd gymeradwy” (“approved software”) yw meddalwedd a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1).

Cyflenwyr meddalwedd cymeradwy11.

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—

(a)

meddalwedd sy'n gallu—

(i)

cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a

(ii)

darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a

(b)

cyflenwyr y feddalwedd honno.

(2)

Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad Rheoli.

Gwahoddiad i geisio am grant12.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy.

(2)

Rhaid i wahoddiad gynnwys—

(a)

manylion o'r feddalwedd gymeradwy a chyflenwyr cymeradwy;

(b)

manylion o'r amodau cymhwystra am grant;

(c)

gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(d)

unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;

(e)

y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais; ac

(f)

unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.

Cymhwystra ar gyfer gwneud cais13.

Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy, os yw'r person hwnnw—

(a)

yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)

wedi prynu meddalwedd gymeradwy gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr cymeradwy i gyflenwi meddalwedd gymeradwy, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

Ceisiadau14.

(1)

Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1).

(2)

Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—

(a)

bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)

bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar geisiadau15.

(1)

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 14(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)

gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—

(a)

o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau; a

(b)

o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.

Talu grant16.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 15(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni—

(a)

bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi'r feddalwedd gymeradwy i'r ceisydd a'r feddalwedd wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)

bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd gymeradwy yn llwyddiannus i gofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac

(c)

y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a

(b)

talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.

Swm y grant17.

O ran swm y grant—

(a)

ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd gymeradwy; a

(b)

caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4Adolygu dyfarniad a lleihau, dal yn ôl neu adennill taliadau

Adolygu dyfarniad18.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 7(1)(b) neu (2) neu o dan baragraffau 15(1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan baragraff 7(1)(a) neu o dan baragraff 15(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

(2)

Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru ar ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 mis ar ôl dyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 7(1) neu 15(1).

(3)

Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi—

(a)

enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

(b)

pa ddyfarniad gan Weinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

(c)

manylion o'r seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a

(d)

yn newid a geisir yn y dyfarniad.

(4)

Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n caniatáu atgynhyrchu.

(5)

Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo, dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'r person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, mewn ysgrifen.

(6)

Wrth adolygu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (pa un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ai peidio ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad);

(b)

gwahodd y ceisydd i ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad ac a ystyrir yn briodol ganddynt ; ac

(c)

rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.

Dirymu, dal yn ôl neu adennill grant19.

(1)

Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 7(1) neu o dan baragraff 15(1)—

(a)

bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi ei dorri neu nad oes cydymffurfiad ag ef; neu

(b)

bod y ceisydd wedi cyflawni trosedd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny9,

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant neu unrhyw ran ohono yn ôl mewn perthynas â'r cais, ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd drwy hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, pa un a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd, ynteu i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraffau 8(2)(a) neu 16(2)(a).

(2)

Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

rhoi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)

rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)

ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Llog20.

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 19(1)(b), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.

(2)

Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi ei thalgrynnu, os oes angen, i ddau bwynt degol.

(3)

Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn datgan y LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw, os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.

RHAN 5Dirymiadau

21.

Dirymir y canlynol—

(a)

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 200610; a

(b)

Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 201011.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2012. Mae'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at y gost o brynu neu gyflenwi dyfeisiau olrhain drwy loeren a meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu data gweithgareddau pysgota yn electronig, yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.

Mae'r Cynllun hwn yn darparu bod rhaid dehongli cyfeiriadau at Offerynnau UE, neu rannau penodedig ohonynt, fel cyfeiriadau at yr Offerynnau neu'r rhannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Rhan 2 o'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â dyfeisiau olrhain drwy loeren. Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 7 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â meddalwedd gymeradwy. Mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer cyhoeddi rhestrau o'r meddalwedd a'r cyflenwyr cymeradwy. Mae paragraff 12 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 15 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 16 a 17 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.

Yn Rhan 4, mae paragraff 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu dyfarniad sy'n gwrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth gais, yn achos cais a wnaed o dan Ran 2 neu Ran 3. Mae paragraff 19 yn darparu ar gyfer dirymu, cadw'n ôl ac adennill grant a gymeradwywyd o dan naill ai Rhan 2 neu Ran 3 mewn rhai amgylchiadau, ac y mae paragraff 20 yn galluogi gwneud llog yn daladwy ar symiau a adenillir.

Yn Rhan 5, mae paragraff 21 yn darparu ar gyfer dirymu Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 a Chynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Cynllun hwn, ac y mae'r asesiad ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.