- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Cynllun a wnaed gan Weinidogion Cymru ac a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn cyfnod o ddeugain diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwnaed y Cynllun, yn ddarostyngedig i'w estyn ar gyfer cyfnodau o ddiddymiad neu doriad o fwy na phedwar diwrnod.
Offerynnau Statudol Cymru
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gwnaed
21 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), fel y'i darllenir ar y cyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) yn gwneud y Cynllun a ganlyn gyda chymeradwyaeth y Trysorlys.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin ac at Reoliad Gweithredu y Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 gael eu dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
1.—(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2012.
(2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Cynllun hwn—
ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (4); a
sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad y gwneir y cais am grant;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(5);
ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;
ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;
ystyr “meistr (“master”) yw'r person sydd, ar y pryd, yn gyfrifol am y cwch pysgota Cymreig cymwys;
ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) mewn perthynas â chwch pysgota yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â'r cwch hwnnw o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(6);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu” (“the Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu y Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 ar 8 Ebrill 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin(7),fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; ac
ystyr “y Rheoliad Rheoli” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006(8), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
(2) Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyflenwr cymeradwy” (“approved supplier”) yw'r darparwr a gosodwr dyfeisiadau olrhain drwy loeren a ddetholwyd gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddwyd yn y gwahoddiad am geisiadau am grant yn unol â pharagraff 4(1) o'r Cynllun hwn; ac
y mae i “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yr ystyr a roddir i “satellite-tracking device” yn Erthygl 2(9) o'r Rheoliad Gweithredu.
4.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren.
(2) Rhaid i wahoddiad gynnwys —
(a)manylion o'r ddyfais olrhain drwy loeren a chyflenwyr cymeradwy;
(b)manylion o'r amodau cymhwystra am grant;
(c)gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;
(d)unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;
(e)y dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais; ac
(f)unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.
5.—(1) Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer dyfais olrhain drwy loeren, os yw'r person hwnnw —
(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a
(b)wedi prynu dyfais olrhain drwy loeren gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr gymeradwy i gyflenwi dyfais olrhain drwy loeren, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.
6.—(1) Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1).
(2) Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—
(a)bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a
(b)bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.
7.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 6(4), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 4(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a
(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—
(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amod(au); a
(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 7(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni —
(a)bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi dyfais olrhain drwy loeren i'r ceisydd a'r ddyfais wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;
(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r ddyfais olrhain drwy loeren yn llwyddiannus i ddarlledu data lleoliad ar ysbeidiau rheolaidd yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac
(c)y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru —
(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a
(b)talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.
9. O ran swm y grant—
(a)ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r ddyfais olrhain drwy loeren; a
(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.
10. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyflenwr cymeradwy”(“approved supplier”) yw cyflenwr a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1) mewn perthynas â'r feddalwedd gymeradwy;
ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw'r data llyfr log, data datganiad trawslwytho a'r data datganiad glanio y mae'n ofynnol, o dan y Rheoliad Rheoli, eu cofnodi a'u darlledu drwy ddull electronig; ac
ystyr “meddalwedd gymeradwy” (“approved software”) yw meddalwedd a bennwyd mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 11(1).
11.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—
(a)meddalwedd sy'n gallu—
(i)cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a
(ii)darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a
(b)cyflenwyr y feddalwedd honno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad Rheoli.
12.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy.
(2) Rhaid i wahoddiad gynnwys—
(a)manylion o'r feddalwedd gymeradwy a chyflenwyr cymeradwy;
(b)manylion o'r amodau cymhwystra am grant;
(c)gofynion o ran ffurf y cais a'r dull o'i wneud;
(d)unrhyw ofynion o ran darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymrwymiadau i gefnogi'r cais;
(e)y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais; ac
(f)unrhyw wybodaeth arall a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn berthnasol i'r cais.
13. Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant ar gyfer meddalwedd gymeradwy, os yw'r person hwnnw—
(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a
(b)wedi prynu meddalwedd gymeradwy gan gyflenwr cymeradwy, neu wedi comisiynu cyflenwr cymeradwy i gyflenwi meddalwedd gymeradwy, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.
14.—(1) Rhaid i gais am grant gael ei wneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1).
(2) Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i gais fod wedi cyrraedd Gweinidogion Cymru ar y dyddiad cau neu cyn hynny.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os bodlonir hwy—
(a)bod amgylchiadau penodol y ceisydd yn peri y byddai'n afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a
(b)bod y dyddiad y gwnaed y cais cyn gynted ag y gellid disgwyl yn rhesymol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol.
15.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 14(4), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ystyriant yn briodol, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a roddwyd o dan baragraff 12(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a
(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen—
(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau; a
(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 18.
16.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 15(1) ac wedi i Weinidogion Cymru gael eu bodloni—
(a)bod y cyflenwr cymeradwy wedi cyflenwi'r feddalwedd gymeradwy i'r ceisydd a'r feddalwedd wedi ei gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;
(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd gymeradwy yn llwyddiannus i gofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota yn unol â gofynion y Rheoliad Rheoli; ac
(c)y cydymffurfiwyd ag unrhyw amod ar dalu'r grant, neu unrhyw ran ohono.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd; a
(b)talu'r grant ar y cyfryw adeg, neu drwy'r cyfryw randaliadau fesul y cyfryw ysbeidiau neu ar y cyfryw adegau, a bennir gan Weinidogion Cymru.
17. O ran swm y grant—
(a)ni chaiff fod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd gymeradwy; a
(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.
18.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 7(1)(b) neu (2) neu o dan baragraffau 15(1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan baragraff 7(1)(a) neu o dan baragraff 15(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.
(2) Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru ar ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 mis ar ôl dyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 7(1) neu 15(1).
(3) Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi—
(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;
(b)pa ddyfarniad gan Weinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;
(c)manylion o'r seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a
(d)yn newid a geisir yn y dyfarniad.
(4) Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n caniatáu atgynhyrchu.
(5) Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo, dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'r person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, mewn ysgrifen.
(6) Wrth adolygu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (pa un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ai peidio ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad);
(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad ac a ystyrir yn briodol ganddynt ; ac
(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.
19.—(1) Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 7(1) neu o dan baragraff 15(1)—
(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi ei dorri neu nad oes cydymffurfiad ag ef; neu
(b)bod y ceisydd wedi cyflawni trosedd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(9),
cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant neu unrhyw ran ohono yn ôl mewn perthynas â'r cais, ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd drwy hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, pa un a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd, ynteu i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraffau 8(2)(a) neu 16(2)(a).
(2) Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
20.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 19(1)(b), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi ei thalgrynnu, os oes angen, i ddau bwynt degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn datgan y LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw, os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.
21. Dirymir y canlynol—
(a)Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006(10); a
(b)Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010(11).
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2012. Mae'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at y gost o brynu neu gyflenwi dyfeisiau olrhain drwy loeren a meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu data gweithgareddau pysgota yn electronig, yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.
Mae'r Cynllun hwn yn darparu bod rhaid dehongli cyfeiriadau at Offerynnau UE, neu rannau penodedig ohonynt, fel cyfeiriadau at yr Offerynnau neu'r rhannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Rhan 2 o'r Cynllun yn darparu ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â dyfeisiau olrhain drwy loeren. Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 7 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â meddalwedd gymeradwy. Mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer cyhoeddi rhestrau o'r meddalwedd a'r cyflenwyr cymeradwy. Mae paragraff 12 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am y grant, paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwystra a'r broses o ymgeisio am y grant a pharagraff 15 yn darparu ar gyfer dyfarnu ar geisiadau, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir, a gofynion ynglŷn â hysbysu. Mae paragraffau 16 a 17 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud taliadau o'r grant, a swm y grant.
Yn Rhan 4, mae paragraff 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu dyfarniad sy'n gwrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth gais, yn achos cais a wnaed o dan Ran 2 neu Ran 3. Mae paragraff 19 yn darparu ar gyfer dirymu, cadw'n ôl ac adennill grant a gymeradwywyd o dan naill ai Rhan 2 neu Ran 3 mewn rhai amgylchiadau, ac y mae paragraff 20 yn galluogi gwneud llog yn daladwy ar symiau a adenillir.
Yn Rhan 5, mae paragraff 21 yn darparu ar gyfer dirymu Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 a Chynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Cynllun hwn, ac y mae'r asesiad ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1981 p.29. Gweler adran 18(1) am y diffiniad o “the Ministers”. Diwygiwyd adrannau 15(2) ac 18(1) gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 68(1), (2) a (3).
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 15 o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau y meant yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae gofynion cymeradwyaeth y Trysorlys o dan adran 15 o Ddeddf 1981 yn parhau'n effeithlon.
1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a diwygiwyd y paragraff hwnnw gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno, a chan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (OS 2007/1388) a chan baragraff 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw.
OJ Rhif L 112, 30.4.2011.
OJ Rhif L 343, 22.12.2009.
O.S. 2006/2799 (Cy.238).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: