Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)).

Mae erthygl 2(2) yn gwneud darpariaeth i wahardd person rhag glanio tatws penodol yng Nghymru oni bai bod hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw wedi cael ei roi i arolygydd awdurdodedig.

Mae erthygl 2(3) yn gwneud darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i datws penodol sy'n dod o Wlad Pwyl ac sy'n cael eu mewnforio i mewn i Gymru gael tystysgrif swyddogol gyda hwy sy'n cadarnhau y canfuwyd bod y tatws yn rhydd oddi wrth Clavibacter michiganensis ssp sepedonicus (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al. mewn arbrofion swyddogol labordy.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol rhagarweiniol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael gan Lywodraeth Cymru, Tîm yr Amgylchedd Naturiol ac Amaethyddiaeth, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UR.