(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ffioedd fod yn daladwy gan gyflenwr dŵr perthnasol am gyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf honno. Mae'r swyddogaethau yn ymwneud â'r ymchwiliadau a'r gofynion adrodd a ganlyn—

(a)

gwirio trefniadau samplu a dadansoddi dŵr;

(b)

gwirio trefniadau rheoli cyflenwad dŵr;

(c)

ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall sy'n deillio o ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr;

(d)

gwirio'r dull o ymdrin â chwynion gan ddefnyddwyr am ansawdd dŵr a'r dull o adrodd ar y cwynion hynny; ac

(e)

gwirio cydymffurfedd â gofynion i roi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch y trefniadau a'r materion hyn neu i'w hysbysu am y trefniadau a'r materion hyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r amgylchiadau pan fo ffioedd yn daladwy ac yn cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi a'u hadolygu a'r modd o wneud hynny (erthygl 4 a'r Atodlen).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.