2012 Rhif 3036 (Cy.310)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi1 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2012.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.

Diwygio Rheoliadau 19922.

(1)

Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013.

(2)

Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 2

“SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

55,476

Bridgend

110,509

Caerphilly

139,249

Carmarthenshire

146,347

Cardiff

274,592

Ceredigion

62,523

Conwy

93,382

Denbighshire

74,395

Flintshire

120,031

Gwynedd

97,845

Isle of Anglesey

56,398

Merthyr Tydfil

46,297

Monmouthshire

72,667

Neath Port Talbot

111,671

Newport

112,550

Pembrokeshire

97,509

Powys

106,868

Rhondda Cynon Taf

184,278

Swansea

191,909

Torfaen

71,371

Vale of Glamorgan (The)

99,443

Wrexham

106,015”

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle'r un bresennol.