(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001 i ymdrin â'r newidiadau a gafodd effaith yn sgil dwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (“Deddf 2012”) i rym.
O dan ddarpariaethau Deddf 2012, ar 1 Awst 2012 newidiwyd enw'r corff a elwid gynt y Cyngor Proffesiynau Iechyd (“HPC”) i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (“HCPC”). Ar yr un diwrnod trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol (“GSCC”) iddo ac ar 1 Hydref 2012 diddymwyd y GSCC.
Mae rheoliad 2 yn rhoi cyfeiriadau at yr HCPC, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001, yn lle cyfeiriadau at y GSCC. Mae'n hepgor y cyfeiriadau at y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol (“CCETSW”) sydd wedi ei ddiddymu hefyd. Dilëir y cyfeiriadau at y rhestrau a ddelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan ddarpariaethau sydd bellach wedi eu diddymu (y rhestrau a sefydlwyd o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a'r rhestr Amddiffyn Oedolion Hyglwyf a sefydlwyd o dan Ran VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000) a rhoddir yn eu lle gyfeiriadau at y rhestrau o bersonau wedi eu gwahardd y cyfeirir atynt yn adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Mae rheoliad 2(3)(c)(ii) yn cywiro mân wall drafftio drwy roi (d) yn lle (ch).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.