(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae'n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Trapiau Sbring (Cymru) 2010 o ran Cymru. Mae erthygl 2 yn pennu'r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng ngholofn (1) yr Atodlen ac eraill sy'n gyfwerth ym mhob modd i'r rheini a restrir felly. Mae'r Gorchymyn yn ychwanegu 5 math o drapiau at y rhai a gymeradwywyd o dan y Gorchymyn blaenorol. Pennir yr amodau a atodir i'r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng ngholofn (2) o'r Atodlen.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad oes ganddo effaith ar gostau busnes.