Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2917 (Cy.242)) (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t1) (“y Gyfarwyddeb”) sy'n ei gwneud yn ofynnol bod Aelod-wladwriaethau'n codi ffioedd i dalu costau'r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb.

Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn nodi'r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion sy'n ddarostyngedig i arolygiadau llai aml y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn a ddarparwyd ar eu cyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 2 newydd yn lle'r un bresennol yn y prif Reoliadau i roi effaith i'r cytundeb diweddaraf gan Bwyllgor Sefydlog yr UE ar Iechyd Planhigion mewn perthynas â ffioedd cyfradd ostyngol. Mae'r gyfradd arolygu ar gyfer Malus o Tsieina wedi cynyddu o 25% i 50% gyda chynnydd cyfatebol mewn ffioedd. Nid yw Mangifera o Brasil a Citrus o Honduras yn gymwys bellach i ffioedd cyfradd ostyngol, gan eu bod yn ddarostyngedig i amlder arolygiadau o 100% ac yn unol â hynny mae'r ffioedd yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi eu cymhwyso i'r llwythi hyn. Mae pob cyfradd arolygu arall, a'r ffioedd yn unol â hynny, wedi gostwng.

Rhagwelir y bydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol, ond ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol, gan eu bod yn gweithredu yn unol â newidiadau blynyddol mewn ffioedd â lefel rhagderfynedig yn hytrach na newidiadau sylfaenol i'r gyfundrefn reoleiddiol ei hun.