Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 86 o Ddeddf Dŵr 2003 (“y Ddeddf”) i rym ar 6 Ebrill 2012 o ran Cymru, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Mae adran 86 o'r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”) o ran y diffiniad o dir halogedig. Mae'r diffiniad o “contaminated land” yn adran 78A o Ddeddf 1990 wedi ei ddiwygio fel bod, mewn perthynas â llygru dyfroedd a reolir, rhaid i'r tir achosi llygredd sylweddol neu fod posibilrwydd sylweddol i'r tir achosi llygredd o'r fath i ddyfroedd a reolir, i'r tir hwnnw gael ei ddynodi yn dir halogedig. Mae adran 86 o'r Ddeddf hefyd yn gwneud newidiadau perthynol i adrannau 78A, 78C, 78E, 78K, 78X a 78YB, sydd yn ganlyniad i ddiwygio'r diffiniad hwnnw.