Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) (Diwygio) 2012
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2012.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 20062.
(1)
(2)
Yn rheoliad 3 (llygru dyfroedd a reolir)—
(a)
“(b)
pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir, ac o ganlyniad—
(i)
nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19915 (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu(ii)
ar gyfer dyfroedd a reolir sydd wedi eu dynodi fel ardaloedd gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr6, nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni'r amcanion amgylcheddol sy'n gymwys iddynt o dan y Gyfarwyddeb honno (ac eithrio'r ardaloedd gwarchodedig a restrir ym mharagraffau (i), (iv) a (v) o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb honno); neu”; a
(b)
ym mharagraff (c)(ii), yn lle “o fewn strata tanddaearol”, rhodder “mewn strata tanddaearol o fewn y parth dirlawnder”.
(3)
“(3)
Dim ond mewn perthynas ag apelau a wneir yn unol â rheoliad 8(1) cyn 6 Ebrill 2012 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.”
(4)
Yn Atodlen 2 (iawndal am hawliau mynediad etc)—
(a)
ym mharagraff 5(3) yn lle “Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “Uwch Dribiwnlys”;
(b)
ym mharagraffau 6(2)(c) a 6(3) yn lle “y Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “yr Uwch Dribiwnlys”; ac
(c)
“(4)
Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn o'r fath, mae adran 4 o Ddeddf 1961 (costau)7 i'w chymhwyso fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—(a)
bod y cyfeiriad at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn;
(b)
bod y cyfeiriadau at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol; ac
(c)
bod cyfeiriadau at yr hawlydd yn gyfeiriadau at y grantwr.”
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2989 (Cy.278)) (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 3(b) (llygru dyfroedd a reolir) o Reoliadau 2006 lle y mae'n ofynnol i dir halogedig, sy'n effeithio ar ddyfroedd a reolir, gael ei ddynodi yn safle arbennig. Mae'r diwygiad hwn yn cymryd ystyriaeth o ardaloedd gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr (OJ Rhif L327, 22.12.00, t.1).
Mae rheoliad 2(2) hefyd yn diwygio rheoliad 3(c) (llygru dyfroedd a reolir) o Reoliadau 2006 i gymryd ystyriaeth o'r diffiniad a ddiweddarwyd o “controlled waters” yn adran 78A(9) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43).
Mae rheoliad 2(3) yn cyfyngu ar gymhwysiad rheoliad 11 (addasu hysbysiad adfer) o Reoliadau 2006 i apelau sy'n cael eu cychwyn cyn 6 Ebrill 2012. O ran yr apelau hynny, mae rheoliad 11 yn darparu ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn iddynt addasu hysbysiad adfer mewn modd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, hysbysu'r personau hynny a chaniatáu iddynt gyflwyno sylwadau a chael eu gwrando mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig.
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2006 i adlewyrchu'r newidiadau a achoswyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau'r Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys Tiroedd a Diwygiadau Amrywiol) 2009 (O.S. 2009/1307) a drosglwyddodd swyddogaethau'r Tribiwnlys Tiroedd i'r Uwch Dribiwnlys ac a ddiddymodd y Tribiwnlys Tiroedd. Mae rheoliad 2(4) hefyd yn diwygio paragraff 6(4) o Atodlen 2 i Reoliadau 2006 i ddileu'r cyfeiriadau at adran 2 a ddiddymwyd o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p. 33) ac yn darparu ar gyfer cymhwysiad priodol cyfeiriadau penodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r newidiadau i'r drefn tir halogedig. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r newidiadau i'r drefn tir halogedig, gan gyfeirio at brif effeithiau'r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan: Yr Adran Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol ar wahân wedi cael ei wneud ar gyfer y Rheoliadau hyn.