Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio gweithrediadau llusgrwydo cregyn bylchog drwy osod gofyniad ar gychod pysgota Prydeinig penodol sydd â llusgrwydi cregyn bylchog arnynt i drosglwyddo gwybodaeth benodol. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2012.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd â llusgrwyd cregyn bylchog arno i gael dyfais olrhain wedi ei gosod ac i drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol i'r derbynnydd enwebedig bob deng munud tra bydd ar y môr.

Mae erthygl 4 yn darparu nad yw erthygl 3 yn gymwys i unrhyw gwch pysgota Prydeinig nad yw'n pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru ac y mae unrhyw lusgrwydi cregyn bylchog sydd wedi eu cysylltu â'r cwch hwnnw wedi eu stowio a'u diogelu y tu allan i'r dŵr.

Mae erthygl 5 yn rhoi diffiniad o'r wybodaeth ofynnol y mae'n rhaid i'r ddyfais olrhain ei throsglwyddo i'r derbynnydd enwebedig.

Mae erthygl 6 yn nodi gofynion penodol sy'n gymwys os na all y ddyfais olrhain drosglwyddo'r wybodaeth ofynnol yn unol ag erthygl 3.

Mae erthygl 7 yn gosod gofynion pellach ynghylch y ddyfais olrhain ar y person sydd â gofal dros unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae llusgrwyd cregyn bylchog arno.

Gwnaed Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.