Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau PDS”).
Mae rheoliadau 2 a 3 yn ôl eu trefn yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau GDS a pharagraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau PDS drwy ddileu'r broses o ddyroddi presgripsiwn o'r math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi y darperir unedau o weithgaredd deintyddol ar ei gyfer.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.