(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwahardd pysgota am bysgod môr â chychod pysgota sy'n defnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod o fewn yr ardaloedd môr penodedig.
Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu ac yn disodli Is-ddeddf 21 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (“y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr”).
Diddymwyd y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966, o ran Cymru, gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Er y dyddiad hwnnw, mae Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr wedi cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 ac Atodlen 4 iddo.
Gwaharddodd Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr y defnydd o offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod oddi ar unrhyw gwch pysgota o fewn un o'r ardaloedd môr penodedig y rhoddir manylion amdanynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am bysgod môr o fewn yr ardaloedd môr penodedig gan ddefnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod ac yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo unrhyw gwch pysgota o fewn yr ardaloedd môr penodedig, fod rhaid i'r holl offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod fod wedi eu stowio a'u diogelu y tu mewn i'r cwch.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dirymu Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr ac yn gwneud y diwygiad canlyniadol angenrheidiol i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010.
Gwnaed Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.