http://www.legislation.gov.uk/wsi/2012/2555/contents/made/welsh
Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2016-11-21
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 11(1) (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn asesiad awdurdod lleol o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal (rheoliad 3). Mae'r Rheoliadau'n nodi'r unigolion a'r grwpiau y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymgynghori รข hwy (rheoliad 4). Yn ogystal, mae gofyniad bod pob awdurdod lleol yn llunio cynllun gweithredu fel rhan o'r asesiad (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau yn darparu ynghylch amlder yr asesiadau (rheoliad 6), a'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gyhoeddi canlyniadau'r asesiadau (rheoliadau 7 ac 8).