(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cafodd Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2012.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ar 1 Hydref 2012 i adennill taliadau parcio heb eu talu mewn cysylltiad â pharcio cerbyd ar dir perthnasol yng Nghymru.

Diffinnir “relevant land” yn Atodlen 4 i'r Ddeddf fel tir ar wahân i briffordd sydd i'w chynnal a'i chadw ar draul y cyhoedd, man parcio a ddarperir a/neu a reolir gan awdurdod traffig neu unrhyw dir arall nad yw'n ddarostyngedig i reolaeth barcio statudol.