Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 yn Rheoliadau 2003 i ddarparu i hyd at bedair sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2011—2012 gyfrif fel sesiynau pan oedd yr ysgol wedi cyfarfod os oeddent wedi eu neilltuo i wella safonau dysgu neu arferion rheoli staff yr ysgol gyda'r bwriad o wella neu asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgol.