Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011 (O.S. 2011/632) (Cy.92)) (“Gorchymyn 2011”). Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau a dynnwyd mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.

Mae erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) o Orchymyn 2011 drwy ddileu'r cyfeiriadau at y Refferendwm Pleidlais Amgen. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 4 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf y mae modd ei adennill ar gyfer etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 5 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 6 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 7 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf y mae modd ei adennill ar gyfer etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 2. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 8 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 ac mae erthygl 9, fel y'i diwygiwyd, yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 2. (Mae erthygl 3(2) hefyd yn dileu'r cyfeiriadau at y Refferendwm Pleidlais Amgen o benawdau erthyglau 5, 6, 8 a 9 o Orchymyn 2011 ac Atodlen 2 iddo).

Mae erthygl 3(3) yn amnewid Atodlen 1 i Orchymyn 2011. Mae'r tabl yn Atodlen 1 sydd wedi'i hamnewid yn disgrifio'r cyfanswm cyffredinol mwyaf a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath.