(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i adran 11 o'r Mesur ac eithrio is-adrannau (3) a (4).
Mae adran 11(1) yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal.
Mae adran 11(2) yn darparu bod Gweinidogion Cymru drwy reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth iddynt wrth asesu digonolrwydd y cyfleoedd chwarae yn ei ardal; y dyddiad erbyn pryd y dylai asesiad cyntaf gael ei gyflawni; amlder asesiadau; adolygu asesiadau; a chyhoeddi asesiadau.
Mae adran 11(5) yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i anghenion plant sy'n anabl ac i anghenion plant o wahanol oedrannau.
Mae adran 11(6) yn darparu diffiniadau o “chwarae” a “digonol”.