xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu—

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant;

2.  Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd;

3.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys;

4.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau;

5.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr;

6.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/55/EC a 2002/57/EC parthed enwau botanegol planhigion, enwau gwyddonol organebau eraill ac Atodiadau penodol i Gyfarwyddebau 66/401/EEC, 66/402/EEC, a 2002/57/EC yng ngoleuni datblygiadau mewn gwybodaeth wyddonol a thechnegol;

7.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu'r amgylchedd naturiol (OJ Rhif L 228, 31.8.2010, t.10);

8.  Penderfyniad y Comisiwn 2011/180/EU sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC parthed yr amodau y caniateir awdurdodi odanynt farchnata pecynnau bach o gymysgeddau o hadau safonol gwahanol amrywogaethau o lysiau o'r un rhywogaeth (OJ Rhif L 78, 24.3.2011, t.55).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yn rhannol (fel y bo angen)—

9.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, a marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny; a

10.  Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau, yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau presennol (a Rheoliadau diwygio perthynol) mewn perthynas â hadau ŷd, hadau planhigion porthiant, hadau planhigion olew a ffibr, hadau llysiau ac ynglŷn â chofrestru, trwyddedu a gorfodi hadau.

Rhannau rhagarweiniol o'r Rheoliadau hyn yw Rhannau 1 a 2, sy'n pennu'r gwahanol gategorïau o hadau.

Nodir y mathau o hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn Atodlen 1.

Mae Rhan 3 yn cynnwys gofynion ar gyfer marchnata hadau. Er mwyn eu marchnata, rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion a bennir o ran ardystio, pecynnu, selio a labelu (rheoliad 8). Mae Atodlen 2 yn pennu'r gofynion ardystio ac mae Atodlen 3 yn pennu'r gofynion labelu ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwerthu hadau rhydd. Mae Atodlen 4 yn pennu eithriadau i'r gofynion cyffredinol.

Mae Rhan 3 yn gosod gofynion o ran cadw cofnodion (rheoliad 19).

O dan Ran 4, mae'n ofynnol cael trwydded i ymgymryd â rhai gweithrediadau megis marchnata hadau (rheoliad 20). Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu arolygwyr cnydau, samplwyr hadau a gorsafoedd profi hadau, i weithredu o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 21).

Mae Rhan 5 yn pennu darpariaethau gweinyddol (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ffioedd) a darpariaethau trosiannol.

Yn unol ag adran 16(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi, ar gollfarn ddiannod, â dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, mewn perthynas â throsi Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC, ar gael o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.