(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/38) (Cy.13).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21 o Ddeddf 1993, esemptio, o ran Cymru, ddosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os bodlonir hwy y gellir defnyddio'r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn esemptio'r leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn a'r drydedd o'r Atodlen honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.