xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—
(a)Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
(b)Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);
(c)Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);
(d)Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);
(e)Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);
(f)Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);
(g)Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(i)Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j)Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(l)Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac
(m)Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).