(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1090 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2008”) drwy drosi Cyfarwyddeb 2012/5/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC o ran brechu yn erbyn y tafod glas (OJ Rhif L 81, 21.3.2012, t.1).

Mae rheoliad 2(4) yn ychwanegu dau baragraff newydd i reoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau gwyliadwriaeth) sy'n ymwneud â gofynion ar gyfer parthau gwyliadwriaeth.

Mae rheoliad 2(5) yn amnewid Rhan 3 newydd (brechu). Mae rheoliad 17 yn dynodi'r cyfyngiadau sy'n ymwneud â chael gafael ar frechlynnau. Mae rheoliad 18 yn darparu gwaharddiad cyffredinol ar frechu. Mae rheoliad 19 yn gosod yr amgylchiadau a'r amodau pan fo brechu gorfodol a gwirfoddol yn erbyn y tafod glas yn gallu digwydd.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith newydd ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.