(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion amrywiol at ddibenion adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae adran 108 yn darparu ar gyfer digolledu drwy daliad mewn achosion penodol pan fo caniatâd cynllunio am ddatblygiad a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl, a phan fo cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw, bod y cais yn cael ei wrthod neu fod y caniatâd yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

Mae adran 108(2A) a (3B) i (3D) (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/210 (Cy.36)) yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan fo digolledu yn daladwy. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r mathau o ddatblygiad at ddibenion adran 108(2A) a (3C) (rheoliad 2), yn rhagnodi'r dull y mae caniatâd cynllunio i'w dynnu'n ôl (rheoliad 3) ac yn rhagnodi'r dull a'r cyfnod hiraf ar gyfer rhoi hysbysiad o dynnu'n ôl, dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau ynddo (rheoliadau 4 a 5). Mae'r datblygiad rhagnodedig yn awr yn cynnwys gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig.

Mae rheoliad 6 yn ddarpariaeth drosiannol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/789 (Cy.105)) a ddirymir gan reoliad 7.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk