(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1) (“Gorchymyn 1995”) o ran Cymru. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1995 ac Atodlen 2 iddo yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir o ran datblygu penodol. Pan fo'r hawliau hynny yn gymwys, nid yw'n ofynnol gwneud unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio.
Mae erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 6 (adeiladau a gweithrediadau amaethyddol) a 7 (adeiladau a gweithrediadau coedwigaeth) o Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Mae'r diwygiadau'n ei gwneud yn glir bod hawliau datblygu a ganiateir yn gymwys o ran adeiladau sydd ar dir amaethyddol neu ar dir coedwigaeth, i roi cyfarpar microgynhyrchu ac yn benodol hydro-dyrbinau dan do, i roi boeleri biomas a systemau treulio anaerobig dan do, ac i storio tanwydd cysylltiol a gwastraff, cyn belled â bod y tanwydd neu'r gwastraff yn cael ei gynhyrchu ar y tir amaethyddol neu'r tir coedwigaeth neu gan y boeler neu'r system.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo yn mewnosod Rhan 43 newydd yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Mae'r Rhan 43 newydd yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gosod mathau penodedig o gyfarpar microgynhyrchu ar adeiladau nad ydynt yn dai annedd neu yn flociau o fflatiau, neu o fewn cwrtil yr adeiladau hynny, yn ddarostyngedig i feini prawf penodol. Mae'n cyflwyno chwe dosbarth newydd o hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gosod rhai mathau o gyfarpar microgynhyrchu, sef yn benodol, paneli solar (Dosbarth A), paneli solar annibynnol (Dosbarth B), pympiau gwres ffynhonnell daear (Dosbarth C), pympiau gwres ffynhonnell dŵr (Dosbarth D), ffliwiau systemau gwresogi biomas (Dosbarth E) a ffliwiau system gwres a phŵer cyfunedig (Dosbarth F).
Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth: Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
O.S. 1995/418. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1997/366, O.S. 2009/2193 (Cy.185) ac O.S. 2012/1346 (Cy.167).