xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 210 (Cy.36)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

Gwnaed

27 Ionawr 2012

Y n dod i rym

31 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(1) a (6) o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 203(9) o'r Ddeddf honno gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.

(2Daw i rym ar 31 Ionawr 2012.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2).

Darpariaethau mewn perthynas â Chymru

2.  Yn adran 108(3). o'r Ddeddf (iawndal am wrthod neu roi caniatâd cynllunio amodol a roddwyd gynt drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol)—

(a)yn is-adran (2A)(a) hepgorer “in England”;

(b)yn is-adran (2A)(b) hepgorer “in England”;

(c)yn is-adran (3C)(a) hepgorer “in England”;

(ch)yn is-adran (3D) hepgorer paragraff (a);

(d)yn is-adran (6), ar ôl “Secretary of State”, mewnosoder “in relation to England and the Welsh Ministers in relation to Wales,”.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 107 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn darparu bod iawndal yn daladwy pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd gan awdurdod cynllunio lleol yn cael ei ddirymu neu ei addasu ar ôl hynny. Mae adran 108 o'r Ddeddf yn estyn yr hawl hon i gael iawndal i amgylchiadau pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 108 fel y mae'n gymwys i Gymru.

Mae diwygiad i is-adran (2A) o adran 108 yn darparu ar gyfer sefyllfa lle y mae caniatâd cynllunio o ddisgrifiad rhagnodedig a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl drwy ddyroddi cyfarwyddiadau o dan y pwerau a roddwyd gan y gorchymyn hwnnw. Canlyniad y diwygiad yw mai dim ond os yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a ganiatawyd gynt drwy'r gorchymyn hwnnw yn cael ei wneud o fewn 12 mis i'r dyddiad y daeth y cyfarwyddiadau'n effeithiol y bydd iawndal yn daladwy.

Mae diwygiad i is-adran (3C) yn darparu, pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu wedi ei dynnu'n ôl, ni fydd unrhyw hawl i gael iawndal:

(i)pan fo caniatâd wedi ei roi ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad rhagnodedig;

(ii)pan fo'r caniatâd yn cael ei dynnu'n ôl yn y dull rhagnodedig; a

(iii)pan fo hysbysiad am y tynnu'n ôl yn cael ei gyhoeddi heb fod yn llai na 12 mis, a heb fod yn hwy na'r cyfnod rhagnodedig, cyn i'r tynnu'n ôl ddod yn effeithiol.

Os cychwynnir y datblygiad cyn i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi, bydd iawndal ar gael onid yw'r gorchymyn o dan sylw yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu cwblhau'r datblygiad ar ôl i'r caniatâd gael ei dynnu'n ôl.

Yn yr un modd, pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl, mae diwygiad i is-adran (3D) yn darparu na fydd unrhyw hawl i gael iawndal pan fo hysbysiad o'r tynnu'n ôl yn cael ei gyhoeddi heb fod yn llai na 12 mis, a heb fod yn fwy na'r cyfnod rhagnodedig, cyn i'r tynnu'n ôl ddod yn effeithiol. Os cychwynnir y datblygiad cyn i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi, bydd iawndal ar gael eto onid yw'r gorchymyn o dan sylw yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu cwblhau'r datblygiad ar ôl i'r caniatâd gael ei dynnu'n ôl.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio adran 108(6) er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy reoliadau mewn perthynas â Chymru:

(i)mathau o ddatblygiad y mae adran 108 yn gymwys iddynt;

(ii)drwy ba ddull y mae caniatâd cynllunio i gael ei dynnu'n ôl;

(iii)drwy ba ddull y mae hysbysiad am y tynnu'n ôl i gael ei gyhoeddi; a

(iv)drwy ba ddull y mae hysbysiad am y tynnu'n ôl neu am ddirymu, diwygio neu gyfarwyddo i gael ei roi, a'r cyfnod hwyaf ar gyfer rhoi hysbysiad o'r fath ar ôl i'r caniatâd gael ei dynnu'n ôl.

Diwygiodd adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 adran 108 mewn perthynas â Lloegr. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n cyfateb i adran 189. Effaith y Gorchymyn hwn, felly, yw bod yr hawl i gael iawndal pan fo gorchmynion datblygu neu orchmynion datblygu lleol yn cael eu tynnu'n ôl yr un fath yng Nghymru ag y mae eisoes yn Lloegr. Mae'r newid hwn yn cael ei wneud drwy hepgor o adran 108 y darpariaethau penodol a oedd yn ymwneud â Lloegr fel bod yr adran yn gymwys yn yr un modd i Gymru a Lloegr.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Gorchymyn hwn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym harc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.org.uk.

(3)

Diwygiwyd adran 108 gan adran 40 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a chan adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.