Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn sgil cychwyn Rhan 1 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Daw'r diwygiadau i rym yng Nghymru ar 3 Medi 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 fel y mae'n gymwys i'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael.