Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod adran 42 o Ddeddf 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a dim ond mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012.
Mae adran 42 o Ddeddf 2010 yn mewnosod adran 106B yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”). Mae adran 106B yn darparu mai dim ond os yw'r amodau a nodir yn adran 106B(2) a (3) o'r Ddeddf honno wedi eu bodloni y caiff person arfer yr hawl, o dan adran 106(1) o Ddeddf 1991, i gael ei ddraeniau neu ei garthffosydd i ymgysylltu â charthffosydd cyhoeddus. Mae'r amodau hyn yn cynnwys gofyniad i'r person, cyn adeiladu carthffos neu ddraen ochrol, ymrwymo mewn cytundeb gyda'r ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan adran 104 o Ddeddf 1991 i fabwysiadu'r garthffos neu'r draen ochrol.
Mae adran 106B o Ddeddf 1991 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi safonau (mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru) ar gyfer dylunio ac adeiladu carthffosydd a draeniau ochrol. Rhaid i'r holl gytundebau mabwysiadu o dan adran 104 o Ddeddf 1991 (yn unol ag adran 106B o'r Ddeddf honno) gynnwys unrhyw safonau perthnasol, neu wyro oddi wrthynt gyda chydsyniad datganedig y partïon i'r cytundeb.
Mae adran 42 o Ddeddf 2010 hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adrannau 104, 105 a 112 o Ddeddf 1991.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chymhwyso adran 106B(4) i garthffosydd neu ddraeniau ochrol sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu sydd wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013.