xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2048 (Cy. 239) (C. 81)

Y DIWYDIANT DŵR, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

Gwnaed

6 Awst 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt—

(a)

gan adran 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a

(b)

gan adran 49(3)(e) a (6) o'r Ddeddf honno, i'r graddau y mae adran 42 o'r Ddeddf honno yn ymwneud ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.

Darpariaeth sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2012

2.—(1Mae adran 42 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012 mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

(2Ond mae erthygl 2(1) yn ddarostyngedig i erthygl 3.

Darpariaethau Trosiannol

3.—(1Yn yr erthygl hon—

mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;

mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(2);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(3);

mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;

ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4);

ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.

(2Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—

(a)pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a

(b)pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,

yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy'n berthnasol.

(3Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.

(4Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

6 Awst 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod adran 42 o Ddeddf 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a dim ond mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012.

Mae adran 42 o Ddeddf 2010 yn mewnosod adran 106B yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”). Mae adran 106B yn darparu mai dim ond os yw'r amodau a nodir yn adran 106B(2) a (3) o'r Ddeddf honno wedi eu bodloni y caiff person arfer yr hawl, o dan adran 106(1) o Ddeddf 1991, i gael ei ddraeniau neu ei garthffosydd i ymgysylltu â charthffosydd cyhoeddus. Mae'r amodau hyn yn cynnwys gofyniad i'r person, cyn adeiladu carthffos neu ddraen ochrol, ymrwymo mewn cytundeb gyda'r ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan adran 104 o Ddeddf 1991 i fabwysiadu'r garthffos neu'r draen ochrol.

Mae adran 106B o Ddeddf 1991 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi safonau (mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru) ar gyfer dylunio ac adeiladu carthffosydd a draeniau ochrol. Rhaid i'r holl gytundebau mabwysiadu o dan adran 104 o Ddeddf 1991 (yn unol ag adran 106B o'r Ddeddf honno) gynnwys unrhyw safonau perthnasol, neu wyro oddi wrthynt gyda chydsyniad datganedig y partïon i'r cytundeb.

Mae adran 42 o Ddeddf 2010 hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adrannau 104, 105 a 112 o Ddeddf 1991.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chymhwyso adran 106B(4) i garthffosydd neu ddraeniau ochrol sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu sydd wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Darpariaeth y DdeddfY dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 1 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 1 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 2 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 2 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 3 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 3 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 4 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 4 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 51 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 6 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 6 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adrannau 7 i 101 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 11 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Adran 11 (o ran Cymru yn unig)1 Tachwedd 20112011/2204 (C. 80)
Adran 121 Tachwedd 20112011/2204 (C. 80)
Adran 131 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 146 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 15 (yn rhannol)18 Ionawr 20112011/95 (C. 4)
Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig)6 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 161 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 17 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 17 (y gweddill)1 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 18 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Adran 18 (o ran Cymru yn unig)1 Tachwedd 20112011/2204 (C. 80)
Adran 196 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 201 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 216 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 22 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 22 (y gweddill)1 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 231 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 241 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 251 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 261 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 271 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Adrannau 28 a 291 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 30 (yn rhannol)6 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 30 (y gweddill)1 Awst 20122012/2000 (C.79)
Adran 31 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
1 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
6 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
6 Ebrill 20122012/879 (C. 25)
Adran 33 (yn rhannol)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Adran 34 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
1 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adran 35 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 36 (yn rhannol)1 Medi 20102010/2169 (C. 108)
Adran 36 (y gweddill)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 376 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Adrannau 38 a 39 (yn rhannol)18 Ionawr 20112011/95 (C. 4)
Adrannau 38 a 39 (y gweddill)1 Rhagfyr 20112011/2856 (C. 101)
Adrannau 40 ac 411 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adrannau 42 a 43 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adran 441 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Adran 45 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Adrannau 46 a 471 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Yn Atodlen 1—
Paragraffau 15 ac 16 (yn rhannol)6 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraff 176 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Atodlen 1 (y gweddill)1 Awst 20122012/2000 (C.79)
Yn Atodlen 2—
Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraff 251 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Paragraffau 26 a 276 Ebrill 20122012/879 (C. 25)
Paragraff 281 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 346 Ebrill 20122012/879 (C. 25)
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraff 376 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraffau 40, 41, 43 a 441 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraff 481 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig)19 Gorffennaf 20112011/1770 (C. 7)
Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraffau 50 i 531 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraff 54 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Paragraff 54 (y gweddill)6 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Yn Atodlen 4—
Paragraff 11 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 (yn rhannol)1 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Paragraffau 38 i 40, 42 a 431 Hydref 20112011/2204 (C. 80)
Yn Atodlen 5—
Paragraffau 1 a 21 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraff 3 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)
Paragraff 41 Ebrill 20112011/694 (C. 25)
Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol)1 Hydref 20102010/2169 (C. 108)