xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gofynion ynglŷn â'r categorïau proffesiynol y mae'n rhaid dewis gweithwyr ohonynt i fod yn aelodau o dîm integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu'r hyn y mae'n rhaid i fwrdd ICiD ei wneud i gyrraedd yr amcanion a roddwyd iddo gan adran 62 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”).
Mae adran 57 o Fesur 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau ICiD. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi cael ei dwyn i rym mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).
Mae rheoliad 2 yn gwneud yn ofynnol bod rhaid i dîm ICiD gynnwys craidd o bum gweithiwr proffesiynol o'r tri phroffesiwn: gwaith cymdeithasol, nyrsio a gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Rhaid i bob un o'r proffesiynau gael ei gynrychioli yn y tîm. Ar ben hynny, rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol, neu os oes rhagor nag un gweithiwr cymdeithasol, rhaid i o leiaf un ohonynt, fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 1.
Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod gan y tîm ICiD sgiliau a phrofiad addas, o ystyried y mathau gwahanol o achosion yr atgyfeirir iddo, unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi a'r angen sydd ar aelodau proffesiynol o'r tîm ICiD am gymorth gweinyddol.
Mae rheoliad 4 yn nodi'r swyddogaethau y mae'n rhaid i fwrdd ICiD eu cyflawni er mwyn cyrraedd ei amcanion fel a nodir yn adran 62(1) o Fesur 2010.
Mae rheoliad 5 yn dirymu Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1690) (Cy.159).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.