xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym, ar 31 Ionawr 2012, adrannau 38 i 43 o'r Ddeddf sy'n ymwneud ag atebolrwydd o ran cyflogau, ac adran 69 sy'n ymwneud â rhyddhad yn ôl disgresiwn o ardrethu annomestig.