(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion o ran arddangos prisiau cynhyrchion tybaco mewn lle yng Nghymru wrth gynnal busnes.

Mae rheoliad 1 yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 3 Rhagfyr 2012 ar gyfer siopau mawr ac ar 6 Ebrill 2015 at bob diben arall.

Mae rheoliad 3 yn diffinio ystyr “lle” (“place”) at ddibenion adran 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco). Fe'i diffiniwyd i olygu mangreoedd yng Nghymru lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu gwerthu wrth gynnal busnes, ac eithrio mangreoedd sydd ond yn hygyrch i bobl sy'n ymhel â'r fasnach dybaco neu sy'n cael eu cyflogi ganddi, ac nad ydynt yn arddangos prisiau cynhyrchion tybaco mewn ffordd sy'n weladwy o'r tu allan i'r mangreoedd.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco mewn lle yng Nghymru gydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 5 yn gosod gofynion cyffredinol y mae'n rhaid iddynt gael eu bodloni gan bob arddangosiad o'r fath. Mae rheoliadau 6 i 8 yn gosod gofynion ychwanegol sydd i'w bodloni mewn perthynas â dull penodol o arddangos prisiau o'r fath. Mae'r dangosiadau am bris gwerthu cynhyrchion tybaco hefyd yn cael eu rheoleiddio gan Orchymyn Marcio Prisiau 2004.

Gall prisiau gael eu harddangos drwy un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: drwy restrau prisiau, sy'n bodloni gofynion rheoliad 6; drwy restrau prisiau sydd ar gael ar gais, ac sy'n bodloni gofynion rheoliad 7; a, thrwy labeli ar unedau storio, sy'n bodloni gofynion rheoliad 8.

Mae rheoliad 9 yn cyfyngu ar gymhwyso'r Rheoliadau hyn i werthwyr tybaco arbenigol a swmpwerthwyr tybaco (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2). Mae'r Rheoliadau ond yn gosod gofynion ar arddangos prisiau cynhyrchion tybaco gan y cyfryw fusnesau lle y byddai arddangosiad o'r fath yn weladwy o'r tu allan i'w mangreoedd.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu am ddrafft o'r Rheoliadau hyn fel safon dechnegol, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol, fel y'i diwygiwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Cwrs Bywyd, yr Is-adran Gwella Iechyd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.