Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”) mewn perthynas â dwy set bellach o ardaloedd awdurdod lleol (ac eithrio rhan o adran 58(6)).

Mae hefyd yn cychwyn rhai pwerau i wneud rheoliadau mewn perthynas â phob rhan o Gymru lle nad ydynt eisoes wedi cychwyn. Mae Rhan 3 (ac eithrio adran 58(6)) eisoes wedi cael ei dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010, ond dim ond mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig, sef Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau yn Atodlen 1. Mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodol i roi effaith i Ran 3 o'r Mesur ac mae'n cael eu dwyn i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud. Effaith erthygl 2 yw dwyn y pwerau hyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd lle nad yw'r pwerau hynny eisoes wedi cychwyn.

Mae erthygl 3 a 4 yn cychwyn y darpariaethau a restrir yn Atodlen 2. Mae'r darpariaethau yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd a Bro Morgannwg ar 28 Chwefror 2012 ac mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ar 31 Mawrth 2012. Mae'r darpariaethau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu'r tîm. Mae adran 58 yn nodi'r mathau o achosion a allai gael eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) ac mae adran 58(6) yn nodi'r categorïau o oedolion a all fod yn destun atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd lle y mae rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy'n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i arolygu timau ICiD.

Mae erthygl 5 yn cychwyn adran 12 o Fesur 2010 ar 31 Ionawr 2012. Mae adran 12 yn ymwneud â phlant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol.