Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch yr arfer gan asiantaethau mabwysiadu (sef, awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) o'u swyddogaethau o ran mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Deuant i rym ar 1 Medi 2012.
Mae'r Prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu, wrth ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn, gyfeirio'r achos at banel mabwysiadu a fydd wedyn yn gorfod gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
Mae Adran 22(1) a (2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, pan fo'n penderfynu y dylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, a bod y meini prawf a nodwyd yn y naill ddarpariaeth neu'r llall wedi eu bodloni, wneud cais i'r llys am orchymyn lleoliad.
Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y broses mewn achosion lle y mae'r awdurdod lleol, fel yr asiantaeth fabwysiadu, yn ystyried a ddylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan amgylchiadau lle, os ydynt yn penderfynu y dylai plentyn gael ei leoli felly, y mae'r penderfyniad hwnnw yn peri cychwyn y ddyletswydd o dan adran 22(1) neu adran 22(2) i wneud cais am orchymyn lleoliad. Yn yr achosion hynny mae'r asiantaeth fabwysiadu bellach wedi ei hatal rhag cyfeirio'r achos at y panel mabwysiadu cyn gwneud ei phenderfyniad.
Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005 yn gwneud darpariaeth o ran Lloegr ynghylch arfer swyddogaethau asiantaethau mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu. Gwneir diwygiadau sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hynny a byddant yn effeithiol o 1 Medi 2012 ymlaen. Bydd y diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Mabwysiadau ag iddynt Elfen Dramor 2005 yn dod i rym hefyd ar y dyddiad hwn.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rheoliad 9 o Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007. Ac eithrio rheoliad 9(1)(b) a 9(1)(c), mae rheoliad 9 yn gosod yr un dyletswyddau ar awdurdodau lleol ag a osodwyd arnynt fel asiantaethau mabwysiadu yn y Prif Reoliadau. I'r graddau nad yw'r gofynion yn rheoliad 9(1)(b) (ynghylch polisïau ysgrifenedig ar gyfer paneli mabwysiadu) eisoes wedi eu hadlewyrchu yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau, mae rheoliad 7 wedi ei ddiwygio'n unol â hynny. Mae'r ddyletswydd a ddisgrifir yn rheoliad 9(1)(c) (cyngor mewn achosion ag iddynt elfen dramor) wedi ei gosod ar asiantaethau mabwysiadu drwy fewnosod rheoliad 8A yn y Prif Reoliadau.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.