Dyletswydd gyffredinol y Corff i roi sylw i gostau a buddiannau wrth arfer pwerau
8.—(1) Wrth ystyried p'un ai arfer unrhyw bŵer a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad neu o dano ai peidio, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o arfer y pŵer hwnnw neu beidio.
(2) Wrth benderfynu ar y modd i arfer unrhyw bŵer o'r fath, rhaid i'r Corff ystyried y costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o'i arfer yn y modd o dan sylw.
(3) Mae'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys oni bai, neu i'r graddau, ei bod yn afresymol i'r Corff fod yn ddarostyngedig iddynt o ystyried natur neu ddiben y pŵer neu o dan amgylchiadau'r achos penodol.
(4) Ond nid yw'r dyletswyddau hynny'n effeithio ar rwymedigaeth y Corff i gyflawni unrhyw ddyletswyddau, cydymffurfio ag unrhyw ofynion, neu fynd ar drywydd unrhyw amcanion, a osodwyd arno neu a roddwyd iddo gan unrhyw ddeddfiad ac eithrio'r erthygl hon.