Swyddogaeth gychwynnol y Corff
7.—(1) Rhaid i'r Corff gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1) yn ôl y meini prawf a nodir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Y maen prawf cyntaf yw bod yn rhaid i'r Corff sicrhau, i'r graddau y mae'n bosibl heb gyfaddawdu'r gwaith o gyflawni ei swyddogaethau o dan erthygl 6(1), bod yna gydweithredu effeithiol mewn perthynas â'r gwaith o weithredu unrhyw gynnig rhyngddo ef, Gweinidogion Cymru ac unrhyw berson neu gorff arall—
(a)y cyfeirir ato yn erthygl 6(1)(a), a
(b)yr effeithir arno gan y cynnig perthnasol.
(3) Yr ail faen prawf yw na chaniateir i'r Corff ymyrryd ag unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a grybwyllir yn erthygl 6(1)(a) wrth iddynt gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau yn effeithiol.