Diben y Corff
4.—(1) Diben y Corff yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru—
(a)yn cael eu cynnal yn gynaliadwy;
(b)yn cael eu gwella yn gynaliadwy; ac
(c)yn cael eu defnyddio yn gynaliadwy.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “yn gynaliadwy” (“sustainably”) yw—
(i)gyda golwg ar wneud lles, a
(ii)mewn modd sydd wedi ei ddylunio i wneud lles,
i bobl, amgylchedd ac economi Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
(b)mae “amgylchedd” (“environment”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, organeddau byw ac ecosystemau.
(3) Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â pharth Cymru (fel y diffinnir “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1)), neu unrhyw swyddogaeth sy'n effeithio ar y parth hwnnw, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at barth Cymru.
(4) Lle bynnag y bo'r Corff yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag unrhyw ardal arall y tu allan i Gymru, neu mewn modd sy'n effeithio ar ardal o'r fath, mae'r ddau gyfeiriad at “Cymru” ym mharagraff (1) i'w dehongli fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at yr ardal o dan sylw.
(5) Nid yw paragraff (1) yn rhoi i'r Corff bŵer—
(a)i wneud unrhyw beth na fyddai ganddo'r pŵer i'w wneud fel arall, neu
(b)i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau mewn modd sy'n groes i ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw rwymedigaeth UE(2).
2006 p.32 (adran 158(1)). Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh zone” gan adran 43(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23).
Diffinnir “EU obligation” yn Atodlen 1 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7; gweler adran 3 a'r Atodlen). Mae'r diffiniad hwn yn gymwys i ddeddfwriaeth arall yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30) ac Atodlen 1 iddi.