Gwarantau Gweinidogion Cymru o ran benthyca gan y Corff
15.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru warantu, yn y fath fodd ac ar yr amodau sy'n briodol yn eu barn hwy, yr ad-daliad o unrhyw brif swm y mae'r Corff yn ei fenthyca gan unrhyw berson, y taliad o log ar y swm hwnnw a chyflawni unrhyw rwymedigaeth ariannol arall sy'n gysylltiedig ag ef.
(2) Os telir unrhyw symiau er mwyn cyflawni gwarant o dan yr erthygl hon, rhaid i'r Corff dalu i Weinidogion Cymru, ar yr adegau ac yn y modd y byddant yn ei gyfarwyddo o bryd i'w gilydd,—
(a)symiau yn ôl eu cyfarwyddyd i ad-dalu neu tuag at ad-dalu'r symiau hynny a dalwyd, a
(b)taliadau llog, ar y gyfradd yn ôl eu cyfarwyddyd, ar yr hyn sy'n weddill ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r symiau hynny a dalwyd.