Pwerau benthyca
14.—(1) Caiff y Corff fenthyca yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon, ond nid fel arall.
(2) Caiff y Corff fenthyca symiau o'r fath mewn sterling ag y mae eu hangen arno i gyflawni ei rwymedigaethau a'i swyddogaethau.
(3) Caiff y Corff fenthyca—
(a)gan Weinidogion Cymru, neu
(b)gan bersonau ac eithrio Gweinidogion Cymru, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4) Caniateir i gydsyniad gael ei roi o dan baragraff (3)(b) yn ddarostyngedig i amodau.