RHAN 3 —MATERION ARIANNOL
Dyletswyddau ariannol cyffredinol13
1
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu dyletswyddau ariannol y Corff.
2
Gellir gwneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer swyddogaethau a gweithgareddau gwahanol y Corff.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
ymgynghori â'r Corff cyn gwneud penderfyniad am ddyletswyddau ariannol y Corff, a
b
rhoi hysbysiad i'r Corff am bob penderfyniad o'r fath y maent yn ei wneud.
4
Caiff penderfyniad o'r fath—
a
ymwneud â chyfnod sy'n dechrau cyn y dyddiad y'i gwneir, arno neu ar ei ôl;
b
cynnwys darpariaethau atodol; ac
c
cael ei amrywio gan benderfyniad dilynol.
5
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i'r Corff gan ei gwneud yn ofynnol iddo dalu iddynt swm sy'n gyfartal â'r cyfan o unrhyw swm neu ran ohono a bennir yn y cyfarwyddyd, neu unrhyw swm o ddisgrifiad a bennir felly a hwnnw'n swm sy'n cael neu sydd wedi cael ei dderbyn gan y Corff hwnnw.
6
Lle yr ymddengys i Weinidogion Cymru fod gan y Corff warged, p'un ai ar gyfrif cyfalaf neu refeniw, cânt gyfarwyddo'r Corff i dalu iddynt swm nad yw'n fwy na'r gwarged hwnnw a bennir yn y cyfarwyddyd.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff cyn rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (5) neu (6).