Cyfarwyddiadau
11.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddiadau.
(3) Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i amrywio neu i ddirymu'r cyfarwyddiadau.
(4) Rhaid i'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan yr erthygl hon.