Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 2006”), drwy ddiweddaru'r diffiniadau o offerynnau UE penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny a darparu y bydd cyfeiriad at yr offerynnau UE hynny yn gyfeiriad atynt wrth i unrhyw atodiad iddynt gael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 i ddiweddaru'r diffiniadau o offerynnau UE penodol drwy—

(a)rhoi diffiniadau o offerynnau UE penodol yn lle'r diffiniadau presennol o offerynnau UE sy'n ymddangos ar ôl y diffiniad o “mangre” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 2(2));

(b)ychwanegu darpariaeth bod unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)); ac

(c)rhoi Atodlen 1 ddiwygiedig (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) yn lle'r Atodlen 1 bresennol (rheoliad 2(5)).

3.  Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurf a maint y marc iechyd arbennig sydd i'w osod ar gig sy'n deillio o anifeiliaid sydd wedi eu cigydda mewn argyfwng y tu allan i'r lladd-dy (rheoliad 2(4) a (6) ac Atodlen 2).

4.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.