Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006 sy'n darparu ar gyfer swyddogaethau Byrddau Lleol Cymru ar gyfer Diogelu Plant o ran yr amcan a osodwyd ar eu cyfer gan adran 32 o Ddeddf Plant 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno adolygiadau ymarfer plant sy'n disodli adolygiadau achos difrifol yng Nghymru y darparwyd ar eu cyfer yn rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.

Mae rheoliad 3 yn rhoi adolygiadau ymarfer plant yn lle adolygiadau achos difrifol.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiadau ymarfer plant.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol.