O dan adran 30 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) ac Atodlen 1 iddi, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdod llifogydd lleol arweiniol neu fwrdd draenio mewnol ddynodi adeileddau neu nodweddion amgylcheddol sy'n effeithio ar y risg o lifogydd neu erydu arfordirol, hyd yn oed os nad yw'r adeileddau neu nodweddion wedi eu cynllunio neu eu hadeiladu ar gyfer y diben hwnnw.
Unwaith y bydd wedi ei dynodi, ni chaiff perchennog y nodwedd ddynodedig ei haddasu, ei thynnu ymaith na'i hamnewid heb ganiatâd yr awdurdod perthnasol, sef yw hynny naill ai yr awdurdod a ddynododd y nodwedd neu'r awdurdod sydd ers hynny wedi cymryd cyfrifoldeb dros y dynodiad yn unol ag Atodlen 1 i'r Ddeddf (yr “Awdurdod Cyfrifol”). Mae paragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i'r Awdurdod Cyfrifol i ddyroddi caniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid nodwedd ddynodedig neu adeiledd dynodedig (neu amrywio caniatâd o'r fath neu ei dynnu yn ôl) ar wahân i wrth ymateb i gais gan berchennog (“hysbysiad paragraff 6(3)(b)”). Mae paragraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ffurf, cynnwys a dull cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu gofyniad i bob hysbysiad paragraff 6(3)(b) bennu cyfnod hysbysu gofynnol cyn iddo gael effaith, ynghyd ag eithriad i'r gofyniad hwn. Hyd y cyfnod hysbysu penodedig yw 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad dyroddi'r hysbysiad er y caiff Awdurdod Cyfrifol bennu cyfnod hysbysu byrrach os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.