Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999, (“Rheoliadau 1999”) yn darparu ar gyfer cyfansoddiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1999 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 (“Deddf 2011”), sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac yn darparu mewn perthynas â gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.
Diwygir rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1999 i ddarparu ynghylch person sy'n destun gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Mae'r diwygiad yn darparu ynghylch cymhwyster person o'r fath ar gyfer cael ei ethol yn aelod o'r Cyngor, ar gyfer cael ei benodi'n aelod o dan reoliadau 7, 8 neu 11, ac ar gyfer pleidleisio mewn etholiad am aelodau etholedig o dan gynllun sydd wedi'i wneud o dan reoliad 6. Mewnosodir adran 141B yn Neddf 2002 gan Ddeddf 2011.
Diwygir rheoliad 10(5)(a) o Reoliadau 1999 fel bod darpariaeth yn cael ei hychwanegu drwy'r hon y bydd aelod o'r Cyngor yn peidio â dal y swydd os bydd cyflogaeth y person hwnnw'n destun gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002.