xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011(3) i rym.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998(4) fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 hepgorer y geiriau “as they have effect in relation to the General Teaching Council for England”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 January 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (“Gorchymyn 1998”) Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a rhoi effaith i nifer o adrannau o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â'r corff hwnnw. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 1998 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011, sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 1998 fel bod cyfeiriad at Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr yn cael ei hepgor.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 8(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1998/2911 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2940 (Cy.281).