(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2005 drwy hepgor y diffiniadau o “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) ac “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”) nad oes eu hangen bellach ar ôl y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 yn rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” ym mhob man lle y mae'n digwydd yn Rheoliadau 2005.
Mae rheoliad 5 yn diwygio'r ddarpariaeth ynglŷn â hyd cyfnod ymsefydlu y mae rhaid ei wasanaethu. Mae'r diwygiad yn darparu bod rhaid i athrawon sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu drwy gwblhau cyfnodau o gyflogaeth o lai nag un tymor ysgol neu ddau hanner tymor olynol wasanaethu 380 o sesiynau ysgol (sy'n cyfateb i dri thymor ysgol).
Mae rheoliad 6 yn dileu'r gofyniad i gyfnodau o gyflogaeth fod o leiaf un tymor neu ddau hanner tymor olynol. Dim ond i gyfnodau o gyflogaeth ar ôl 1 Medi 2012 y mae hyn yn gymwys.
Mae rheoliad 7 yn diwygio'r gofynion goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Mae'r diwygiad yn gwneud pennaeth ysgol lle y mae cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi personau sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o ddydd i ddydd, ac mae'n gwneud y corff priodol yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi cyffredinol y personau hynny. Rhaid i'r goruchwylio a'r hyfforddi y mae'r corff priodol yn gyfrifol amdanynt gynnwys goruchwylio a hyfforddi gan berson sydd â gwybodaeth am y safonau sy'n ofynnol o dan reoliad 13 o Reoliadau 2005.
Mae rheoliad 8 yn diwygio'r weithdrefn i'w dilyn gan y corff priodol ar ôl i gyfnod ymsefydlu gael ei gwblhau drwy ddileu'r gofyniad i bennaeth ysgol wneud argymhelliad o ran p'un a yw'r safonau ymsefydlu wedi eu bodloni.
Mae rheoliadau 9 a 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.