Y Rheoliadau hyn yw'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o ran Cymru o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989, sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, fel rhan o'r ystod o wasanaethau y maent yn eu darparu i deuluoedd, i ddarparu seibiannau oddi wrth ofalu i gynorthwyo rhieni ac eraill sy'n darparu gofal ar gyfer plant anabl.
Mewnosodwyd is-baragraffau (1)(c) a (2) o baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (adran 25).
Mae'r Rheoliadau, a ddaw i rym ar 28 Mehefin 2012, yn rhagnodi'r modd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud darpariaeth ar gyfer seibiannau byr i ofalwyr plant anabl yn eu hardal hwy. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i—
anghenion y gofalwyr hynny a allai ddarparu gofal yn fwy effeithiol pe byddent yn cael seibiannau oddi wrth ofalu, a
anghenion y gofalwyr hynny na allent barhau i ddarparu gofal oni bai bod seibiant yn cael ei gynnig iddynt (rheoliad 3).
Maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu ystod o wasanaethau seibiannau byr (rheoliad 4), ac i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â gofalwyr yn eu hardal, baratoi, cyhoeddi ac adolygu'n gyson “ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr” sy'n nodi pa wasanaethau sydd ar gael, y categorïau o ofalwr a allai fod yn gymwys i'w defnyddio, a sut y maent wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion gofalwyr yn yr ardal (rheoliad 5).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.