2012 Rhif 1674 (Cy.215)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 6(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 19891.

Y rhain yw'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan baragraff 6(2) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, sy'n rhagnodi, at ddibenion paragraff 6(1)(c) o Atodlen 2, sut y mae'r ddyletswydd i'w harfer.

Yn unol ag adran 104A(3)2 o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.