Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
20 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), gan eu bod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir yn y Gorchymyn hwn ac, yn unol ag adran 7(2), wedi iddynt gyflawni pa bynnag ymgynghori yr ymddengys iddynt ei fod yn briodol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012.
(2) Daw erthygl 2(2)(b) ac (c) o'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011(3) i rym, a daw erthygl 2(2)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o'r Ddeddf honno i rym.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(4) fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan II o'r Atodlen,
(a)ar ôl paragraff 22A, mewnosoder y canlynol—
“22B Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.
(b)ym mharagraff 23A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
(c)ym mharagraff 23B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 (“Gorchymyn 2000”), o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 (“Deddf 2011”) sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“CACLl”) ac yn darparu mewn perthynas â gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.
Mae erthygl 2(2) yn diwygio Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2000 drwy ychwanegu paragraff 22B newydd sy'n darparu y bydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) yn cynnwys yn ei gofnodion delerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) yn gwahardd person rhag cyflawni gwaith addysgu. Mewnosodir adran 141B yn Neddf 2002 gan Ddeddf 2011.
Mae erthygl 2(2) hefyd yn diwygio paragraffau 23A a 23B o Ran II o'r Atodlen er mwyn dileu cyfeiriadau at CACLl.
1998 p. 30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2000/1941 (Cy. 139) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2497 (Cy. 201), O.S. 2005/68 (Cy. 6), O.S. 2006/1341 (Cy. 132), O.S. 2009/1351 (Cy. 127) ac O.S. 2010/1142 (Cy. 101).